Dirwy £500,000 am geisiadau PPI i gwmni o Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Abertawe wedi cael dirwy o £570,000, y fwyaf erioed o'i math, am "annog cleientiaid" i wneud ceisiadau am yswiriant PPI.
Dywedodd y corff rheoleiddio fod gwaith cwmni Rock Law yn golygu bod "pobl mewn perygl o gael eu hecsploetio".
Yn 2014 fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno dirwyon i gwmnïau oedd yn torri cod ymddygiad y rheoleiddiwr.
Gall cwmnïau gael dirwy o hyd at 20% o'u trosiant blynyddol a cholli eu trwyddedau dros dro neu'n barhaol.
Dywedodd pennaeth y rheoleiddiwr, Kevin Rousell: "Fe wnaeth ein hymchwiliad ddangos bod Rock Law'n cymryd taliadau oedd heb eu hawdurdodi oedd yn golygu bod pobl yn agored i niwed mewn perygl o gael eu hecsploetio.
"Mae maint y ddirwy yn dangos pa mor ddifrifol yr ydyn ni'n trin gwaith diogelu'r cyhoedd rhag cael eu hecsploetio."