Rhyddhau adar o sbwriel glan môr yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr a gwirfoddolwyr wedi rhyddhau dwsinau o adar oedd wedi eu dal mewn rhaffau a rhwydi ar ynys oddi ar arfordir Sir Benfro.
Mae Ynys Gwales yn gartref i bron 40,000 o barau bridio o fulfrain gwynion, gan wneud yr ynys y drydedd gynefin bwysicaf yn y byd ar gyfer yr adar môr.
Mae'r adar yn dueddol o gael eu dal mewn gwastraff arfordirol, megis llinellau pysgota a rhwydi.
Dywedodd warden yr RSPB, Lisa Morgan: "Os ydym yn eu gadael yma heb eu rhyddhau, yna byddent yn llwgu i farwolaeth."
Mae Mrs Morgan a'i gŵr, Greg, yn wardeiniaid gyda'r elusen ar yr ynys, ac maent, ynghyd â thîm arbennig, wedi torri 50 o gywion ac adar yn rhydd o'r sbwriel.
Credir i'r adar gamgymryd y rhaffau synthetig am ddeunydd ar gyfer nythu, fel gwymon.
Roedd yn rhaid torri coesau dau aderyn i ffwrdd oherwydd bod y difrod a achoswyd gan y rhaff mor ddifrifol.
Dywedodd Mrs Morgan: "Nid ydym yn gwybod os yw'r adar yma'n gallu goroesi yn y gwyllt gyda dim ond un goes, ond o leiaf ein bod wedi rhoi ail gyfle iddyn nhw."
Mae'r ynys yn frith o adar marw, ond, yn ôl yr RSPB, mae lefel y marwolaethau a achosir gan sbwriel môr ar Ynys Gwales yn annhebygol o gael effaith ar y boblogaeth huganod yn ei chyfanrwydd.