Toriadau: Plismona'n 'fwy anodd' yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Plismon
Disgrifiad o’r llun,
Plismon ar ddyletswydd wedi ymosodiad rhyw honedig

Mae uwchswyddog wedi dweud bod plismona tafarnau a chlybiau yn y nos "yn fwy anodd" oherwydd toriadau - ar ôl i gyfarfod drafod ymosodiadau rhyw honedig.

Dywedodd Dirprwy Gomisynydd Heddlu a Throseddau De Cymru Sophie Howe fod "llawer gormod" o glybiau a thafarnau yng Nghaerdydd.

Roedd yr heddlu, aelodau'r cyngor, busnesau a cholegau'n trafod ddydd Iau wedi tri ymosodiad rhyw honedig yn y brifddinas ym Medi.

Er bod Caerdydd yn "lle saff iawn," meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Lewis, roedd yn anodd iawn plismona tafarnau a chlybiau oherwydd bod cymaint ohonyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Richard Lewis, mae Caerdydd yn ddinas ddiogel

Llai o arian

O fewn milltir sgwâr yng nghanol y brifddinas mae 299 o glybiau a thafarnau.

Dywedodd Mr Lewis fod plismona'n "fwy anodd" oherwydd llai o arian yng nghyllidebau'r heddlu.

Mae Ms Howe wedi dweud: "Does dim angen mwy o glybiau na thafarnau yng nghanol y ddinas. Mae mwy yng nghanol y ddinas hon nag unrhyw le arall ym Mhrydain."

Bydd staff mewn tafarnau a chlybiau yn cael eu hyfforddi sut i ddelio ag ymddygiad annerbyniol a bydd yr heddlu a'r cyngor yn cydweithio er mwyn annog yfed cyfrifol yn ystod y nos.