Neidr ar grwydr mewn tacsi yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr tacsi o Sir y Fflint wedi disgrifio ei sioc ar ôl darganfod teithiwr anarferol yn ei cherbyd - neidr pedair troedfedd.
Daeth Madge Allen o gwmni tacsi Stanways yn Yr Wyddgrug, o hyd i'r neidr o dan sedd yn y car wedi iddi ollwng teithiwr yng ngorsaf drenau'r Fflint.
Dywedodd bod y neidr wedi dianc o un o fagiau'r teithwyr.
"Rwyf wedi gyrru tacsi ers 28 o flynyddoedd ac wedi gyrru cathod a chŵn ond dim neidr. Dyma'r tro cyntaf," meddai.
Tynnu coes
Roedd ei chyd-weithwyr ym meddwl ei bod yn tynnu eu coes i ddechrau, cyn sylweddoli bod y neidr yn un byw, a galw am arbenigwr nadroedd.
"Mae gen i ofn nadroedd, felly mae'n beth da ei fod yn cysgu. Duw a ŵyr beth fyddai wedi digwydd petawn i wedi ei weld tra roeddwn yn gyrru", meddai Ms Allen.
"Mae tipyn o dynnu coes wedi bod gyda'r gyrwyr eraill erbyn hyn."
Fe wnaeth y teithiwr gysylltu gyda'r cwmni tacsis, ond nid yw wedi dod i gasglu'r neidr eto, ac mae ffrind i Ms Allen yn edrych ar ei ôl.