Cwest: Dynes ifanc wedi marw ar ôl disgyn i lawr grisiau
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod dynes ifanc wedi marw mewn damwain ar ôl noson yn trefnu gwyliau tramor gyda ffrindiau.
Cofnododd crwner Gwent farwolaeth ddamweiniol.
Roedd Ellen Hitchings, optegydd 28 oed, wedi disgyn i lawr grisiau a daeth ei thad o hyd iddi yn eistedd ar waelod y grisiau yn ei chartref ym Mhont-y-pŵl.
Aeth i'w gwely'r noson honno ar ôl dweud ei bod yn "iawn" heb sylweddoli ei bod wedi torri asgwrn ei phenglog.
Clywodd y cwest bod ei chorff wedi ei ddarganfod yn ei gwely'r bore canlynol ac nid oedd modd ei hachub.
Dywedodd ei thad Idris Hitchins: "Roedd hi'n ffit iawn ... ond roedd hi wedi bod yn sâl ac roedd briw o amgylch ei llygad dde."
Gwirfoddoli
Roedd hi wedi gobeithio teithio i Affrica i wirfoddoli i elusen Vision Aid ond fe aeth i dŷ ffrind i drefnu gwyliau arall y noson honno.
Clywodd y cwest ei bod hi wedi dweud wrth ei thad nad oedd "dim i boeni amdano" ac roedd wedi mynd i'r gwely ar ôl dioddef anaf i'w phen.
Dangosodd archwiliad post mortem ei bod wedi marw o achos gwaedu mewnol yn dilyn torri asgwrn ei phenglog.
Clywodd y cwest yng Nghasnewydd fod yr anaf yn cyfateb i anaf y byddai rhywun yn ei ddioddef ar ôl disgyn i lawr grisiau ac fe ddaeth y crwner i'r casgliad ei fod yn "debygol" mai'r ddamwain oedd wedi achosi ei marwolaeth.