Gosod gwifrau arbennig i atal marwolaethau adar
- Cyhoeddwyd

Mae gwifrau trydan arbennig yn cael eu gosod mewn rhannau o Gymru er mwyn amddiffyn adar gwyllt.
Ym mis Mai bu farw gwalch ar ochr Mynydd Hiraethog yng Nghonwy wedi i'w adennydd gyffwrdd gwifrau trydan.
Mae gwirfoddolwyr mewn rhannau o'r gogledd a'r canolbarth wedi bod yn gweithio gyda chwmni trydan i wneud ceblau trydan yn fwy diogel i adar rheibus fel gweilch a boncathod.
Yn ogystal â diogelu'r ceblau mae nythod arbennig wedi eu codi ar bolion i atal yr adar rhag glanio ar bolion trydan.
Nythod
Mae Gail Edgley yn wirfoddolwraig sydd wedi bod yn cydlynu'r gwaith. "Dim ond tair oed oedd y gwalch fu farw," meddai. "Roedd wedi cael y llysenw Jimmy.
"Roeddwn i'n drist pan wnes i glywed beth oedd wedi digwydd iddo - fe ges i sioc enfawr.
"Roeddwn i'n teimlo na ddylai hyn fyth ddigwydd eto."
Mae gweilch yn adar rheibus sy'n dal pysgod o afonydd a llynnoedd, ac maen nhw i'w gweld yn amlach yng Nghymru erbyn hyn.
Mae'r newidiadau i'r ceblau trydan yn digwydd mewn ardaloedd lle mae'r adar yn nythu neu'n hel pysgod.
Addasiadau
Mae'r gwaith o addasu'r gwifrau yn cynnwys eu gwahanu ymhellach nag arfer, gosod cylchoedd plastig ar y gwifrau i ddychryn yr adar ac atal yr adar rhag glanio ar focsys trawsnewidwyr sy'n cyflenwi trydan i dai.
Dywedodd Liam O'Sullivan o gwmni Scottish Power: "Marwolaeth y gwalch ym mis Mai oedd y cyntaf i mi allu ei gofio yn ein hardal ni o ogledd Cymru.
"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gail Edgley i ystyried be oedd modd ei wneud i ddiogelu'r gweilch.
"Roeddem am weithredu'n gyflym i osgoi unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Ynghyd â gwneud newidiadau i'n gwifrau yn yr ardal, rydym hefyd wedi ariannu prosiect i godi tair nyth ar bolion ar Fynydd Hiraethog i hybu gweilch rhag nythu ger ein llinellau trydan."
Am fwy gwrandewch ar raglen Country Focus ar BBC Radio Wales am 07:00 ddydd Sul.