Ymchwilio i werthu babi: Arestio tri yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Babi
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r babi yn chwech wythnos oed ac o dan ofal Cyngor Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i achos honedig o werthu babi.

Dywedodd yr heddlu fod mam y babi, gafodd ei eni yn Sbaen, wedi honni ei fod wedi marw pan oedd yn 15 diwrnod oed yn ystod llawdriniaeth frys ym Mhrydain.

Plismyn Gwlad yr Haf ac Avon arestiodd y fam 19 oed ym Maes Awyr Bryste wedi iddi deithio o Sbaen yn gynnar ar 9 Hydref a chafodd ei chludo i orsaf ganolog heddlu Caerdydd.

Mae'r babi'n ddiogel ac o dan ofal Cyngor Caerdydd.

Cafodd cwpwl eu harestio yn Nhredelerch, Caerdydd ar 8 Hydref, a'u rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Roedd y babi yn y tŷ pan gafodd y ddau eu harestio.

Heddlu Sbaen oedd wedi dweud eu bod yn amau bod y babi, gafodd ei eni yn Zamora 150 milltir i'r gogledd-orllewin o Madrid ar 2 Medi, wedi ei werthu neu ei fabwysiadu'n anghyfreithlon am hyd at £11,000.

Mam o Romania

Doedden nhw ddim yn fodlon enwi'r rhai gafodd eu harestio ond un oedd y fam o Romania a'r ddau arall oedd y cwpl 25 a 26 oed o Sbaen.

Maen nhw'n ymchwilio a oedd y cwpl wedi talu'r fam, oedd yn arfer byw yn Zamora, er mwyn cadw'r babi.

Dywedodd Heddlu Sbaen fod profion DNA yn cael eu cynnal er mwyn cadarnhau pwy oedd tad y babi.

Roedd arestio mwy o bobl yn bosib, meddai llefarydd, oherwydd eu bod yn amau bod mwy o bobl yn rhan o'r broses werthu.