BBC Cymru Fyw

Creu 100 o swyddi newydd ym Mlaenau Gwent

Published
image copyrightGoogle
image captionMae gan Zorba Delicacies safle ar Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglyn Ebwy yn barod

Mae cwmni bwyd wedi dweud y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ffatri £9m ym Mlaenau Gwent.

Ar hyn o bryd mae Zorba Delicacies yn cynhyrchu cawl a sawsiau ar eu safle ar Stad Ddiwydiannol Rasa, Glyn Ebwy.

Bydd y ffatri newydd yn Nhredegar.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Chris Nash fod angen ehangu yn yr ardal oherwydd "gweithwyr o ansawdd uchel".