Leanne Wood: 'Gall y blaid ddysgu gwersi gan yr SNP'

Leanne Wood
Image caption Leanne Wood: Yn annerch y gynhadledd yfory

Gall Plaid Cymru ddysgu gwersi gan yr SNP sut i wneud yn well na'r Blaid Lafur a llywodraethu yng Nghymru, meddai arweinydd y blaid Leanne Wood.

Mae'r blaid yn wynebu "talcen caled," meddai, ond mynnodd nad oedd hi'n amhosib taw hi fyddai'r blaid fwyaf ym Mae Caerdydd.

Ar hyn o bryd trydedd blaid y Cynulliad yw Plaid Cymru, y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr.

Roedd Ms Wood yn siarad â BBC Cymru yng nghynhadledd yr SNP yn Aberdeen lle bydd hi'n traddodi araith yfory.

Cynhadledd fwya

Dyma'r gynhadledd fwya yn hanes yr SNP a hithau wedi ennill 56 o'r 59 etholaeth yn yr Alban yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Yn y cyfamser, methodd Plaid Cymru â gwella ar ei chyfanswm o dair sedd.

Dywedodd Ms Wood: "Mae 'na nifer o wersi y gallwn ni ddysgu o brofiad yr SNP - nid y lleiaf o'r rheiny yw'r modd iddyn nhw gymryd lle'r llywodraeth Lafur yn 2007 a mynd i'r afael â nifer o'r problemau oedd yn wynebu'r Alban ar y pryd.

"Mae 'na wersi i Gymru - os oes 'na blaid gref, genedlaethol yn llywodraethu, mae'n bosib gweld llwyddiannau gwirioneddol, a gallwn ni wneud yr un peth yng Nghymru.

"Dwi'n derbyn ein bod ni'n wynebu talcen caled.

"Ond dwi ddim yn derbyn ei bod hi'n amhosib na chwaith fod unrhyw beth yn anochel yn achos Cymru - na'n wir fod unrhyw beth yn anochel ynglŷn â chanlyniad etholiad y flwyddyn nesaf."