Cymru'n paratoi i wynebu De Affrica
- Cyhoeddwyd
Fe fydd miloedd o bob rhan o Gymru'n teithio i Twickenham ddydd Sadwrn wrth i ddegau o filoedd o gefnogwyr pedair gwlad dyrru i Gaerdydd y penwythnos yma ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan y Byd.
Mae'r gêm gyntaf rhwng Cymru a De Affrica am 16:00 ddydd Sadwrn.
Gan nad yw Lloegr wedi cyrraedd y rownd yma mae sôn fod cefnogwyr Lloegr wedi gwerthu eu tocynnau wrth eu miloedd ar gyfer stadiwm Twickenham, sy'n dal 81,000.
Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland fod siom enfawr colli i Ffrainc yn 2011 yn y gêm gynderfynol yn ddigon i ysbrydoli ei dîm.
"Daeth y tîm adre o 2011 yn teimlo nad oedden nhw wedi cyflawni'r hyn oedd ei angen," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl ein bod yn barod i fynd adre ddydd Sul a dwi'n gwybod nad yw'r chwaraewyr yn barod i fynd adre."
Mae Cymru wedi gwneud tri newid i'r tîm gollodd yn erbyn Awstralia o 15-6 ddydd Sadwrn dweithaf.
Bydd Tyler Morgan yn dechrau yn y canol, mae Gethin Jenkins yn ôl yn y rheng flaen a bydd Dan Lydiate yn dechrau yn lle Justin Tipuric fel blaenasgellwr.
Cymru
Gareth Anscombe; Alex Cuthbert, Tyler Morgan, Jamie Roberts, George North; Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook.
De Affrica
Willie le Roux; J P Pietersen, Jesse Kriel, Damien de Allende, Bryan Habana; Handre Pollard, Fourie du Preez (capten); Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Frans Malherbe, Lodewyk de Jager, Eben Etzebeth, Schalk Burger, Duane Vermeulen, Francois Louw.
Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Jannie du Plessis, Pieter-Steph du Toit, Willem Alberts, Ruan Pienaar, Pat Lambie, Jan Serfontein.
Tra bydd miloedd o Gymry'n heidio i Twickenham, bydd Caerdydd yn croesawu cefnogwyr Seland Newydd, Ffrainc, Iwerddon, ac Ariannin.
Bydd y gêm rhwng Ffrainc a Seland Newydd am 20:00 nos Sadwrn.
Mae Iwerddon yn wynebu Ariannin am 13:00 ddydd Sul ac, yn ôl gwefan Trivago, mae prisiau rhai gwestai wedi codi gymaint â 960% yn y brifddinas, gydag ystafell ddwbl yn costio £1,225.
Gallwch ddilyn y gêm yn fyw ar lif byw Cymru Fyw o 15:30 ddydd Sadwrn, ac am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan arbennig.