Dros 400 mewn rali i gofio boddi Tryweryn
- Published
Roedd dros 400 o bobl yn bresennol mewn rali ger cronfa Tryweryn ddydd Sadwrn i nodi hanner canrif ers boddi'r cwm.
Roedd yna wrthwynebiad mawr yn 1965 a'r blynyddoedd cyn hynny i gynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi'r pentre' a gorfodi 70 o drigolion i adael eu cartrefi yng Nghapel Celyn.
Mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried yn un pwysig yn hanes twf cenedlaetholdeb Cymreig.
Cafodd rali dydd Sadwrn ei threfnu gan gangen leol Plaid Cymru.
image copyrightBBC Sport
Yn 2005, fe ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl yn gyhoeddus am "loes" ac "ansensitifrwydd" boddi Capel Celyn.
Yr wythnos hon mewn trafodaeth yn Neuadd San Steffan dywedodd Alun Cairns, Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru, fod boddi'r cwmni yn "bennod gywilyddus yn hanes Cymru".
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Hydref 2015
- Published
- 15 Hydref 2015