Wood: 'Ergyd ddwbl i Gymru'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud wrth gynhadledd yr SNP fod Cymru ar ei cholled oherwydd Llywodraeth Lafur sy'n methu, ac oherwydd cytundeb gwan ar ddatganoli.
Dywedodd ei bod yn benderfynol o sicrhau grym i'w phlaid yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, a'i bod yn gobeithio y byddai'n dychwelyd i gynhadledd yr SNP y flwyddyn nesa'n brif weinidog ar Gymru.
Ar hyn o bryd, trydedd blaid y Cynulliad yw Plaid Cymru, y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr.
'Talcen caled'
Mae'r blaid yn wynebu "talcen caled", meddai, ond mynnodd nad oedd hi'n amhosib mai hi fyddai'r blaid fwyaf ym Mae Caerdydd.
Ymosododd ar record Llafur, gan gyhuddo Llywodraeth Carwyn Jones o nifer o fethiannau.
"Rydych chi yn yr Alban wedi llwyddo i ddod a theyrnasiad y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur i ben," meddai "a'n nod ni yw gwneud yn union yr un fath yng Nghymru."
"Fy ngobaith yw dychwelyd i'ch cynhadledd y flwyddyn nesa i'ch llongyfarch ar fuddugoliaeth etholiadol arall, a gwneud hynny fel prif weinidog Cymru."
'Pererindodau i gynhadleddau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Yn hytrach na mynd ar bererindodau i gynhadleddau'r SNP, byddai'n well i Leanne Wood aros yng Nghymru ac esbonio sut y bydd Plaid Cymru yn talu am yr holl addewidion y maen nhw'n eu gwneud, gan gynnwys cynllun enfawr a drud i ailstrwythuro'r Gwasanaeth Iechyd."
Ychwanegodd y llefarydd bod yr "holl addewidion" yn dangos "pam nad yw pobl yn ymddiried" ym Mhlaid Cymru ar faterion iechyd a'r economi, a bod y blaid yn anwybyddu ei hanes ei hunan mewn llywodraeth.
"Er y toriadau i gyllideb Cymru gan lywodraeth Doriaidd, dydyn ni erioed wedi gwario mwy ar y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, ac mae dros 90% o bobl sy'n cael eu trin yn cael profiad da."