Cofeb wedi'i osod ger Tywyn i gofio am dri brawd
- Cyhoeddwyd

Mae cofeb wedi ei chodi ar fryn ger Tywyn yng Ngwynedd er cof am dri brawd ifanc gafodd eu lladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'n debyg i'r tri bachgen, 13, 11 a 9 oed, ddod o hyd i fom mortar wrth fynd am dro ym mis Mai 1944.
Credir bod un o'r bechgyn wedi gafael yn y bom a'i fod wedi ffrwydro gan ladd y tri ar unwaith.
Roedd y brodyr - Charles Oliver, Christmas Wynn ac Idris Meirion - yn byw ar Fferm Dysyrnant, Cwm Maethlon.
'Hollol ddiniwed'
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y fyddin yn hyfforddi yn yr ardal rhwng Pennal a Thywyn, ac mae'n debyg i'r bom gael ei adael mewn camgymeriad.
Cafodd y gofeb ei chodi ble cafodd cyrff y bechgyn eu darganfod.
Mae'r dadorchuddio yn dilyn cyfnod o gydweithio rhwng tirfeddianwyr lleol, y gymuned leol a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd y cwpled ar y llechen ei hysgrifennu gan Hedd Bleddyn:
"Aeth yr hwyl o'r llethrau hyn,
"Yn gynnar yn eu Gwanwyn."
Mae Sam Evans, brawd hŷn y bechgyn yn dal i fyw ym Mhennal. Roedd yn 19 oed ac yn y fyddin pan gafodd y tri eu lladd.
Ar y pryd, fe gafodd ganiatâd i fynd ar wyliau byr, gyda'r fyddin yn dweud wrtho am fynd adref gan fod rhywbeth wedi digwydd.
Ar y ffordd adref fe ddigwyddodd gwrdd brawd arall ar y trên - ac yno clywodd y newyddion trist.
"Roedd e wedi hitio pawb," meddai. "Roedd yr ardal gyfan wedi'i syfrdanu.
"Plant o'n nhw, yn hollol ddiniwed. Wnelon nhw ddim byd â'r fyddin a'r rhyfel. Doedd dim eisiau fod hyn wedi digwydd a dwi'n dal i ddweud heddiw mai blerwch mawr oedd e."
'Pwysig cofio'
Dywedodd Mr Evans ei fod yn croesawu'r gofeb gan ddweud y dylid cofio'r hanes.
"Mae'n hanes sy'n deilwng o gael cofeb," meddai. "Mae llawer wedi dweud wrtha i nad oedd yr hyn ddigwyddodd i'm mrodyr wedi digwydd o'r blaen ac mae'n bwysig ei fod yn cael ei gofio."
Dywedodd David Roberts, aelod o awdurdod y Parc Cenedlaethol, y bydd postyn ar lwybr cyhoeddus cyfagos yn cynnwys côd y gellir ei sganio gyda ffôn symudol.
Bydd hyn yn galluogi i gerddwyr yn yr ardal ddarllen y stori'n llawn ar eu ffôn.
"Roedd codi'r gofeb yma yn bwysig i'r Parc am ei fod yn beth pwysig i'r gymuned," meddai Mr Roberts.
"Mae'n bwysig cofio'r hogiau bach ac mae'n rhan o stori'r mynyddoedd yma, stori'r werin. Ac er ei bod hi'n stori drist ofnadwy gadewch i ni ei chofio hi."