Scarlets 25-14 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Scarlets winger DTH van der Merwe scores his first try for the regionFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Asgellwr y Scarlets DTH van der Merwe yn sgorio ei gais cyntaf i'r clwb

Fe wnaeth yr asgellwr DTH van der Merwe groesi ddwywaith yn ei gêm gyntaf i'r Scarlets wrth i'r tîm cartref barhau a'u record 100% yn y Pro 12.

Fe wnaeth y gŵr o Ganada rhyng-gipio pas i sgorio o 80 metr, a hynny wedi i gais James Davies roi y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn y gêm.

Sgoriodd Van der Merwe ei ail, ar ôl awr o chwarae gan roi'r Scarlets ar y blaen 25-0.

Ond methiant oedd yr ymdrechion i sgorio pedwerydd cais a sicrhau pwynt bonws.

Fe groesodd Isa Nacewa a James Tracy i'r ymwelwyr.