Munster 35 - 27 Gleision
- Cyhoeddwyd

Symudodd Munster i frig y Pro12 gyda buddugoliaeth dros y Gleision o 35 i 27.
Roedd Gleision Caerdydd ar y blaen o 17 i 14 ar yr hanner, gyda cheisiau gan Tavis Knoyle a Richard Smith, tra bod Mike Sherry a Ian Keatley wedi sgorio dros Munster.
Daeth ceisiau i Tom Isaacs a Sherry unwaith eto wedi'r hanner.
Ond roedd perfformiad Munster yn ugain munud ola'r gem yn rhy gryf, a daeth y gêm i ben gyda'r Gleision i lawr i 14 dyn wedi i Jevon Groves gael carden felen.
Dim ond un fuddugolaeth y mae'r Gleision wedi ei sicrhau yn y Pro12 ers mis Medi y llynedd.