Preston 0 - 0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Peniad gan Sean Morrison
Mae Caerdydd yn parhau'n wythfed yn y Bencampwriaeth wedi gem ddi-sgôr yn Preston North End.
Daeth cyfle gorau'r hanner cynta' i'r ymwelwyr gydag ergyd gan Joe Mason ond llwyddodd Tommy Clarke i'w rhwystro.
Bu bron i Preston fynd ar y blaen gyda pheniad gan Clarke ond bwrw'r postyn wnaeth y bêl.
Fe allai cic rydd hwyr gan Peter Whittingham fod wedi ennill y gêm i Gaerdydd ond fe lwyddodd Jordan Pickford i'w harbed.
Mae'r gêm gyfartal yn golygu fod Preston yn codi uwchben Bolton a Rotherham sydd ar waelod y Bencampwriaeth.