Treviso 22 - 25 Y Gweilch
- Cyhoeddwyd

Sam Davies sgoriodd drydydd cais y Gweilch a chicio 10 pwynt
Daeth rhediad siomedig y Gweilch i ben yn nhymor y Pro12, gyda'u buddugoliaeth gyntaf, a hynny yn erbyn Benetton Treviso.
Croesodd Dan Evans a Ben Johns am geisiau yn yr hanner cyntaf, gyda James Ambrosini'n tirio dros Treviso.
Sgoriodd Sam Davies drydydd cais yn yr ail hanner yn ogystal â chicio 10 pwynt.
Llwyddodd ceisiau hwyr gan Jayden Hayward a Luca Bigi i sichrau pwynt bonws i Treviso ond doedd hynny ddim yn ddigon i drechu'r Gweilch.