Casnewydd 0 - 1 Portsmouth
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd yn dal ar waelod yr ail adran ar ôl colli 1-0 yn erbyn Portsmouth ar Rodney Parade.
Fe sgoriwyd unig gôl y gêm gan yr ymosodwr Matt Tubbs yn ystod yr amser gafodd ei ychwanegu am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Mae John Sheridan felly yn dal i chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr newydd Yr Alltudion - ac fe all fod yn falch o ymdrech ei chwaraewyr yn yr ail hanner.
Fe ddaeth y capten Mark Byrne yn agos i ddod a nhw'n gyfartal, ond fe aeth ei ergyd o 25 llath fodfeddi heibio'r postyn.