Glo brig: Colli 70 o swyddi

Safle Selar Image copyright Geograph

Bydd 70 o bobl yn colli eu swyddi wrth i safle glo brig yn ne Cymru gau am dair blynedd.

Dywedodd cwmni Celtic Energy eu bod yn cau safle Selar, ger Glyn-nedd, ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf oherwydd gostyngiad ym mhris glo.

Dywedodd y cwmni nad oedd y bosib parhau i weithredu ar y safle yn ogystal â safleoedd Nant Helen ac East Pit.

Fe all rhai swyddi gael eu symud i'r safleoedd yna, ond mae disgwyl i'r rhan fwyaf o weithwyr adael yn wirfoddol.

Dywedodd prif weithredwr Celtic Energy bod yr "effaith ar y gweithlu a'u teuluoedd" yn peri gofid, ond ei fod yn gobeithio gallu lleihau hynny drwy ddiswyddo gwirfoddol.

Ychwanegodd y byddai'r cwmni yn cynnal trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol a'r llywodraeth i gynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio.