Cartrefi gofal cyngor Sir Ddinbych dan sylw
- Cyhoeddwyd

Cartref gofal Awelon yn Rhuthun yw un o'r cartrefi dan sylw
Mae ymgynghoriad am ddyfodol cartrefi gofal a chanolfannau dydd yn Sir Ddinbych wedi dechrau.
Mae'r cyngor yn ystyried cau canolfannau sydd dan eu rheolaeth er mwyn lleihau costau a chanolbwyntio ar ofal cymdeithasol yn y gymuned.
Nid dyma'r awdurdod cyntaf i ystyried cynllun tebyg, a'r wythnos diwethaf fe wnaeth Cyngor Wrecsam gytuno i gau'r cartref gofal olaf dan eu rheolaeth nhw.
Yn Sir Ddinbych, byddai rhoi canolfannau yn Rhuthun, Dinbych, Corwen a'r Rhyl dan ofal preifat yn gallu arbed hyd at £700,000.
Ym mis Medi, dywedodd Aelod Cynulliad ei fod yn pryderu am ddyfodol cartrefi gofal yn Sir Ddinbych mewn cyfarfod cyhoeddus.