Ymgyrch yn galw am fabwysiadu plant hŷn yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Tim a Becky MorganFfynhonnell y llun, GMC
Disgrifiad o’r llun,
Mae Tim a Becky Morgan yn dweud bod y broses o fabwysiadu wedi bod yn "hyfryd"

Mae cwpl o Gymru yn annog pobl sy'n ystyried mabwysiadu plentyn i gymryd plant hŷn i'w teuluoedd.

Daw sylwadau Becky a Tim Morgan, o Bowys, fel rhan o ymgyrch newydd yn Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu.

Yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC), ar gyfartaledd mae'n cymryd tua 15 mis i ddod o hyd i gartref i blentyn sydd bedair oed neu hŷn - dwbl yr amser maen ei gymryd i blant iau.

Mae ffigyrau'r GMC yn dangos ei bod wedi cymryd 16.5 mis ar gyfartaledd i gael cartref i blentyn yn 2014/15, ond mae hynny i lawr o 26 mis y flwyddyn gynt.

'Hyfryd'

Fe wnaeth Mr a Mrs Morgan fabwysiadu bachgen pump oed.

Dywedodd Mrs Morgan: "I ni mae wedi bod yn hyfryd.

"Roedden ni'n ddigon ffodus i fagu ein plant ers iddyn nhw gael eu geni. Roedden ni rhannu beth sydd gan ein plant ni gyda phlentyn oedd angen teulu.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd yn haws mabwysiadu babi a bydd yn haws creu perthynas a bydd llai o broblemau.

"Mae'n bosib y bydd gan blentyn hŷn gefndir trawmatig, ond ni ddylai pobl gymryd yn ganiataol y bydd yn anoddach neu y bydd diweddglo llai positif i blentyn, oherwydd nid dyna sy'n digwydd bob tro."

'Haeddu bywyd hapus'

Cafodd y GMC ei sefydlu yn 2014, ac mae'n cael ei reoli gan lywodraeth leol.

Dywedodd cyfarwyddwraig gweithredol y corff, Suzanne Griffiths, bod yr amser i gael cartref i blentyn wedi lleihau, ond bod angen gwneud mwy.

"Mae'r rhan fwyaf sydd am fabwysiadu eisiau'r plant ieuengaf a lleiaf cymhleth sy'n bosib.

"Rydyn ni'n deall hynny, ond mae 'na blant hŷn sy'n dod drwy'r system ofal sydd angen eu mabwysiadu, ac rydyn ni'n credu eu bod yr un mor haeddiannol o fywyd hapus."

Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn dechrau ddydd Llun, 19 Hydref.