Sut mae mesur cynnydd y genedl?
- Cyhoeddwyd

Sut mae mesur cynnydd y genedl? Dyna y mae cynllun newydd sydd wedi ei ddatgelu gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ei ofyn.
Yn dilyn ymgynghoriad, y bwriad yw creu 40 o "ddangosyddion cenedlaethol" er mwyn i'r llywodraeth fesur cyflwr y genedl mewn meysydd fel iechyd, yr amgylchedd, addysg a'r economi.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn helpu i Gymru gyrraedd amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae nawr yn destun ymgynghoriad.
Fe wnaeth y ddeddf osod sawl 'dangosydd cenedlaethol' i Gymru:
- Bywyd hir ac iach i bawb;
- Pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau a chymwysterau;
- Pobl mewn gwaith;
- Ansawdd tai;
- Pobl yn defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd;
- Ansawdd yr aer.
Dywedodd Carwyn Jones bod materion fel addysg, ansawdd bywyd a'r amgylchedd yn "hollbwysig i lewyrch cenedl", ond bod angen dull gwell o fesur hynny.
"Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad mawr i gasglu barn pobl am beth ddylai ein dangosyddion cenedlaethol fod. Yn syml, sut ydym ni, fel llywodraeth, yn mesur cenedl," meddai.
"Dyma gyfle gwych i gyrff cyhoeddus, unigolion a sefydliadau ddweud eu dweud ar sut yr ydym i barhau i ddatblygu ac adeiladu y Gymru yr ydym ei heisiau.
"Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd arnom i gyd i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog yn y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw."
Ychwanegodd: "Nid ydynt yn cyfeirio at nodau neu lwyddiannau y llywodraeth yn unig, ond at roi darlun llawer mwy cyflawn o gynnydd y genedl yn gyffredinol."