Taro a ffoi Cydweli: Awdur mewn cyflwr difrifol iawn

Heol Newydd Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Heol Newydd

Mae awdur o Gydweli yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro gan yrrwr wnaeth ddim stopio ddydd Sadwrn.

Fe gafodd Julian Ruck, 59 oed, ei daro ar Heol Newydd yn y dref am tua 19:30, ac mae wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben a'i goes.

Cafodd Mr Ruck - sydd wedi ysgrifennu pedwar llyfr ac yn golofnydd i bapurau lleol - ei gymryd i Ysbyty Treforys yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod y gyrrwr yn ymwybodol ei fod wedi taro cerddwr, am i'r car stopio cyn gyrru i ffwrdd i'r de tuag at Heol y Bont.

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.