Cefnogwr yn cymryd lle dyfarnwr yng ngêm Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Fourth official Wayne Barratt (R) took over when referee James Adcock retired with an injuryFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth anaf i ddyfarnwr olygu bod cefnogwr wedi cael y cyfle unigryw o fod yn rhan o'r tîm dyfarnu yn ystod gêm Casnewydd yn erbyn Portsmouth yn Adran 2 ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y dyfarnwr James Adcock ei anafu yn ystod yr hanner cyntaf, ac roedd rhaid i'r pedwerydd swyddog Wayne Barratt gymryd ei le yn y canol.

Heb unrhyw swyddogion wrth gefn, fe gafodd alwad ei wneud dros yr uwch-seinydd yn Rodney Parade i ofyn am help.

Cefnogwr Portsmouth - Mike Hurdle, sy'n ddyfarnwr cymwys - atebodd y galw, gan gamu i'r neilltu fel pedwerydd swyddog.