Dim achos yn erbyn cyn-seren rygbi Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Mils Muliaina

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed na fydd achos yn erbyn cyn-chwaraewr rygbi Seland Newydd oedd wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhyw.

Roedd Mils Muliaina, 35 oed, wedi ei gyhuddo o fod wedi cyflawni'r drosedd yng nghanol Caerdydd ar 7 Mawrth.

Clywodd y llys bod Mr Muliaina wedi'i gyhuddo o gyffwrdd dynes mewn clwb nos, ond nad oedd digon o dystiolaeth am euogfarn.

Fe wnaeth Mr Muliaina ennill 100 o gapiau rhyngwladol cyn iddo ymddeol o'r tîm rhyngwladol yn 2011.