Troseddau rhyw yn erbyn plant: Cyhuddo dyn o Gasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gasnewydd ymysg saith o ddynion sydd wedi'u cyhuddo yn dilyn ymchwiliad i droseddau rhyw yn erbyn plant ym Mryste.
Daw'r cyhuddiadau wedi i nifer gael eu harestio mewn pedwar man ym Mryste a thŷ yng Nghasnewydd ym mis Mai.
Mae Mohammed Dahir Osman, 28 oed o Gasnewydd, yn wynebu pum cyhuddiad o dreisio.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron Llys Ynadon Bryste ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod y cyhuddiadau yn deillio o ymchwiliad i droseddau rhyw yn erbyn saith o ferched, oedd rhwng 12 a 15 oed, rhwng 2009 a 2013.