Cymru 2015: Llwyddiant neu fethiant?
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd 2015 ar ôl colli o drwch blewyn i Dde Affrica.
Roedd gan Cymru restr faith o anfiadau cyn dechrau'r gystadleuaeth. Ydy hyn yn adlewyrchiad o lwyddiant neu fethiant tîm Warren Gatland?
Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, sy'n cloriannu digwyddiadau yr wythnosau diwetha':
'Aros yn hir yn y cof'
Fe ddaeth taith anhygoel Cymru yng Nghwpan y Byd 2015 i ben yn Twickenham. Ond yn anffodus, yn rownd yr wyth ola' oedd hi ac nid yn y rownd derfynol.
Roedd 'na siom amlwg ymhlith y chwaraewyr, hyfforddwyr a'r cefnogwyr, ond roedd 'na deimlad o falchder anferth hefyd ar ôl ymdrech arwrol arall.
Mewn cystadleuaeth gofiadwy - y gorau eioed o ran safon y rygbi drwyddi draw - fe fydd tair gêm Cymru yn Twickenham yn aros yn hir yn y cof.
Y gêm yn erbyn Lloegr oedd uchafbwynt Cymru - gêm ddangosodd dyfnder cymeriad a'r hunan-gred fod ganddyn nhw'r gallu i gipio buddugoliaeth beth bynnag y pwysau maen nhw'n wynebu.
Yn anffodus doedd yr elfennau hynny ddim cweit yn ddigon yn erbyn Awstralia yn y gêm ddi-gais orau erioed. Ac yn y pen draw, efallai mai anallu Cymru i sgori cais yn erbyn tri dyn ar ddeg y Wallabies oedd yn allweddol i beidio mynd ymhellach nag y gwnaethon nhw.
Creadigrwydd y Cymry ar goll?
Fe gododd y gêm yn erbyn De Affrica i lefel uwch eto o ran dwysder a brwydr gorfforol. Yn anffodus, syrthio ychydig yn brin o'r nod oedd yr un hen hanes gan adael teimlad bod Cymru'n gorfod gadael y llwyfan mawr heb wireddu'u potensial.
Roedd y pedair gem dros y penwythnos yn hollol wych yn eu ffyrdd hollol wahanol a braf oedd gweld Cymru'n chwarae rhan flaenllaw.
Fe ddangosodd Cwpan y Byd 2015 fod Cymru'n gallu dal eu tir gyda'r goreuon hyd yn oed ar ôl colli cynifer o chwaraewyr allweddol.
Ond mae 'na awgrym clir bod angen elfen arall mwy creadigol a chlinigol os am guro yn hytrach na chystadlu gyda'r goreuon yn gyson.
Elwa o chwarae'r cewri
O chwarae'n rheolaidd ym mhencampwriaeth hemisffer y de, mae Ariannin wedi ehangu'u gem i fynd gyda sylfaen draddodiadol y blaenwyr. Maen nhw wedi bod yn chwa o awyr iach a'r penllanw oedd record o fuddugoliaeth dros Iwerddon.
Mae 'na ddwy wers arall wedi bod hefyd - buddugoliaeth Awstralia dros Loegr ac, yn fwy nodedig, perfformiad rhyfeddol Seland Newydd yn chwalu Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm.
Cyflymder a chywirdeb ceisiau. Os all Cymru ddysgu'r gwersi hynny a'u hychwanegu at y sylfaeni mae Warren Gatland eisoes wedi'u gosod, efallai na fydd yn rhaid i ni barhau i fod yn gollwyr am lawer rhagor.