Carcharu dynes ifanc o Gricieth am yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
llys

Mae dynes ifanc o Gricieth a anafodd mam a'i phlant wrth ddefnyddio dau ffôn symudol tra'n gyrru wedi ei dedfrydu i 10 mis o garchar.

Fe wnaeth Nell Owen, 25, "ddiystyru rheolau'r ffordd yn llwyr" wrth i'r lori oedd hi'n yrru daro car oedd o'i blaen, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug.

Doedd dim niwed parhaol i Tami Swayne na'i dau o blant, ond bu un ohonyn nhw, babi saith mis oed, yn yr ysbyty am chwe diwrnod gyda chleisiau i'r ymennydd.

Fe gyfaddefodd Ms Owen o Gricieth i yrru'n beryglus ac mae wedi ei gwahardd rhag gyrru am dair blynedd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A470, tua milltir o groesfan Caersws, ar 4 Tachwedd llynedd.

Ffôn symudol

Yn dilyn y digwyddiad gwelwyd Ms Owen yn taflu ffôn symudol i gae cyfagos ac i ddechrau fe wadodd ei bod wedi ei ddefnyddio o gwbl.

Wrth ei dedfrydu, dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrthi: "Am nifer o filltiroedd fe wnaethoch chi yrru gan ddiystyru rheolau'r ffordd yn llwyr."

Roedd Ms Owen yn yrrwr proffesiynol oedd yn cludo gwartheg ar y pryd, oedd i fod a chyflymder uchaf o 40 milltir yr awr. Ond ar 12 achlysur yn ystod y daith roedd hi wedi cyrraedd 56 milltir yr awr - yr uchafbwynt o dan y rheolau gyrru cerbydau trwm.

Gwelwyd hi'n gafael mewn ffôn yn ei chlust a'i llaw arall yn gafael yn yr olwyn cyn iddi daro'r car o'i blaen a oedd yn disgwyl i droi'r dde. Arweiniodd hynny at y car yn taro cerbyd arall oedd yn dod o'r cyfeiriad arall, ac fe anafwyd y gyrrwr hwnnw hefyd, Terence Dyche.

"Fe wnaethoch chi ei daro ar gyflymder llawn heb oedi nes yr eiliad olaf un gan nad oeddech chi'n edrych. Doeddech chi heb weld y car," ychwanegodd y barnwr, gan rybuddio: "Fe all pethau wedi bod yn llawer gwaeth."