Creulondeb plant: Dau yn y llys

  • Cyhoeddwyd
LlysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth y ddau ymddangos gerbron llys yng Nghaernarfon ddydd Llun

Mae barnwr yn Llys y Goron Caernarfon wedi gosod amserlen yn achos honiadau o greulondeb yn erbyn plant mewn uned gyfeirio plant yng Ngwynedd.

Honnir fod y troseddau wedi digwydd yng Nghanolfan Brynffynnon yn y Felinheli rhwng Medi 2006 ac Ionawr 2014.

Mae Sion Bedwyr Evans, 41 oed, o Lanrug yn wynebu 24 cyhuddiad ac mae Gary Vaughan Roberts, 39 oed, o Gaernarfon, yn wynebu 26 cyhuddiad.

Cafodd y ddau ddyn eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl clywed y bydd gwrandawiad cychwynnol yn cael ei gynnal i'r achos ar 7 Rhagfyr.

Mae disgwyl i'w hachos bara am bedair wythnos ac fe fydd rhan o'r dystiolaeth yn Gymraeg.