Galw am adolygiad o waith y BBC yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae prif weinidog Cymru wedi galw am adolygiad brys o "ddyletswyddau" y BBC yng Nghymru.

Fe wnaeth Carwyn Jones honni nad oedd asesiad wedi bod i'r ffordd yr oedd darlledwyr cyhoeddus wedi ymateb i newidiadau yn y DU ers datganoli.

Mewn llythyr i'r Gweinidog Diwylliant John Whittingdale, fe alwodd am ddiffiniad mwy eglur o'r hyn y mae Cymru ei angen a'r hyn sy'n ddyletswydd ar y BBC i'w gynnig.

Ychwanegodd y dylai'r adolygiad gynnwys gwaith S4C.

Dywedodd Mr Jones y dylai'r adolygiad ganolbwyntio ar sut yr oedd y BBC ac S4C yn hybu a chynnal y diwylliant a'r iaith Gymraeg, a'r ffordd yr oedd y ddau sefydliad yn cynrychioli'r Cymry a ffordd o fyw Cymru, a'r methiannau masnachol presennol mewn cysylltiad â gwasanaethau darlledu cyhoeddus yng Nghymru.

"Ers datganoli rydym wedi gweld newid sylweddol yn y ffordd y mae cenhedloedd a rhanbarthau y DU yn gweithredu o ganlyniad i anghenion y bobl sydd yn byw yno", meddai.

Ond nid oedd unrhyw asesiad wedi bod o sut yr oedd gwasanaethau darlledu cyhoeddus wedi ymateb i'r newidiadau hynny, meddai.

"Mae angen adolygiad llawn o bwrpas cyhoeddus y BBC fel mater o frys", ychwanegodd.