Bryn Terfel yn dathlu ei ben-blwydd yn 50

  • Cyhoeddwyd
bryn terfel

Ar ei ben-blwydd yn 50 oed, mae'r bas-bariton o Bantglas, Bryn Terfel, yn dathlu drwy gamu ar lwyfan Neuadd Albert yn Llundain mewn cyngerdd arbennig.

Mae eisoes wedi perfformio yno 33 o weithiau, ac wedi ennill y wobr Brit Clasurol am yr artist gwrywaidd gorau ar y llwyfan yn 2000, 2004 a 2005.

Fe berfformiodd yn y neuadd am y tro cyntaf 30 mlynedd ôl yn ystod dathliadau Gŵyl Ddewi.

Dyma'r trydydd tro iddo gynnal cyngerdd ar ei ben ei hun yno.

Dywedodd Bryn Terfel: "Dw i wrth fy modd 'mod i'n dathlu fy mhenblwydd yn 50 yn Neuadd Albert - lleoliad sydd â chymaint o atgofion melys i mi yn ystod fy ngyrfa.

"Fe fydd y cyngerdd yn ddathliad o fy hoff gerddoriaeth - o Mozart i Sondheim, Wagner i Rodgers & Hammerstein - gydag ambell i sypreis hefyd, dw i'n gobeithio."

Yn ôl Jasper Hope, Prif Swyddog Gweithredol Neuadd Albert, maen nhw'n edrych 'mlaen at "groesawu Bryn yn ôl i lwyfan enwoca'r byd - y lleoliad perffaith i ddathlu ei benblwydd arbennig".