'Angen cydraddoldeb i chwaraeon anabledd'

  • Cyhoeddwyd
Aled DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar drothwy pencampwriaethau chwaraeon anabledd y byd yn Doha, mae capten tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad y llynedd, Aled Sion Davies yn mynnu fod angen gwneud mwy i hyrwyddo'r maes.

Er bod "barn pawb ar chwaraeon anabledd wedi newid llawer ers Llundain 2012", yn ôl y Cymro, "ni dal oesoedd y tu ôl i athletwyr heb anableddau".

Mae Aled o'r farn bod "hyrwyddo wedi gwaethygu", er y cyhoeddusrwydd ddaeth ar ôl llwyddiant y Gemau Paralympaidd yn Llundain dair blynedd yn ôl.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cyfaddef bod dal angen "llawer o waith i sicrhau fod pob plentyn, beth bynnag fo'u gallu, yn cael cyfle cynhwysol a theg".

Ond mae'r sefydliad yn mynnu fod "cynnydd enfawr" wedi bod yn y gefnogaeth i chwaraeon anabledd.

"Cydraddoldeb" yw'r nod, meddai Aled.

"Fi eisiau gweld yr un faint o hyrwyddo sydd gyda chwaraeon di-anabledd," ychwanegodd.

'Esiampl o waith da'

Yn ôl Chwaraeon Anabledd Cymru, "yn 2002 dim ond 1,200 o gyfleoedd oedd yna i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon.

"Rwan, mae mwy na miliwn o gyfleoedd, gyda dros 300 o glybiau yn darparu cyfleon cymhwysol, a rheiny'n cynnwys oddeutu 18,000 o aelodau sydd yn datgan fod ganddyn nhw anabledd".

Ychwanegodd y sefydliad bod 40% o blant ysgol a phobl ifanc a oedd wedi nodi fod ganddynt anabledd mewn arolwg diweddar yn cymryd rhan mwy na theirgwaith yr wythnos mewn chwaraeon trwy Gymru - i fyny o 31% yn 2013 - 8% tu ôl i blant heb anableddau.

Mae Cymru, yn ôl y sefydliad, yn cael ei hystyried "fel esiampl o waith da" gan wledydd eraill dros y byd.

Ymlaen i Doha...

Er iddo alw am ragor o gyhoeddusrwydd a hyrwyddo yn y maes, mae Aled yn canmol y gefnogaeth sydd ar gael o fewn y gamp.

Mae'n cystadlu ym mhencampwriaeth y byd naw wythnos wedi llawdriniaeth ar dorgest (hernia), gan obeithio gorffen o fewn y chwech ucha', a chyrraedd tabl y medalau yw'r gobaith mwya'.

Fe ddywedodd ei fod "yn hapus fy mod i'n gallu cystadlu efo'r athletwyr gorau yn y byd, a mae'n niolch i'n fawr i'r tîm o 'nghwmpas i, sydd wedi wneud siwr y fod i'n yma."