Gwerthu tir: Trafod pryderon
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad mewnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru wedi codi rhagor o gwestiynau dros benderfyniad un o asiantaethau'r llywodraeth i werthu pecyn gwerthfawr o dir cyhoeddus.
Cwmni Lambert Smith Hampton oedd wedi cynghori Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru yn y broses o werthu 15 safle o dir am £21 miliwn i gwmni o Guernsey ym Mawrth 2012.
Yn yr adroddiad gan gwmni Deloitte mae Lambert Smith Hampton wedi cael ei feirniadu am beidio cynnig digon o gyngor na dadansoddiad i'r Gronfa Buddsoddi.
Cafodd adroddiad Deloitte ei ysgrifennu yn 2013 a'i wneud yn gyhoeddus fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.
'Diffygion yn y broses'
Ym mis Gorffennaf dywedodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru bod yna ddiffygion yn y broses o werthu tir i gwmni o Guernsey ym Mawrth 2012.
Yn ôl adroddiad y Swyddfa Archwilio mae trethdalwyr ar eu colled hyd at £15 miliwn yn dilyn y gwerthiant.
Mae adroddiad Deloitte yn dweud nad yw'n ymddangos fod cwmni Lambert Smith Hampton wedi codi cwestiynau dros y penderfyniad i werthu'r tir gwerthfawr am £21 miliwn.
Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dywedodd Lambert Smith Hampton eu bod nhw o'r farn eu bod nhw wedi sicrhau pris da ar gyfer y tir.
Bydd cyfle i wleidyddion holi'r cwmni yn y pwyllgor yn ddiweddarach.