Pryderon am ddeintydd: Cysylltu â 3,000 claf
- Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a chorff Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgrifennu at dros 3,000 o bobl ynglŷn â phryderon am ddeintydd yn y brifddinas.
Mae Mark Roberts wedi'i wahardd o'i waith ac yn destun ymchwiliad gan y Cyngor Deintyddol Cenedlaethol ar ôl i honiadau gael eu gwneud nad oedd yn cadw at drefniadau swyddogol i atal heintiau rhag lledu.
Roedd yn gweithio fel deintydd yn Stryd Sblot, Caerdydd ers 1989.
Ym mis Chwefror eleni, fe gafodd ei atal o'i waith ar ôl i aelod arall o staff yn y ddeintyddfa fynegi pryderon amdano wrth berchnogion newydd y safle.
Yr honiad oedd ei fod yn ailddefnyddio potiau o anesthetydd a ffeiliau ar gyfer llawdriniaethau - oedd i fod ar gyfer un person - ar fwy nag un claf.
Wrth ymateb i'r camau yn ei erbyn, dywedodd Dr Roberts: "Mae'n wir edifar gen i fod yna wendidau achlysurol wedi bod o fewn y ddeintyddfa, ac rwyf wedi ceisio mynd i'r afael â nhw.
"Mae rhoi'r gofal gorau i fy nghleifion wastad wedi bod yn flaenoriaeth i mi."
'Risg bychan iawn'
Fe gyfeiriodd y perchnogion newydd y mater at y bwrdd iechyd lleol, sydd wedi ymchwilio a gwahardd Mark Roberts rhag gweithio fel deintydd tra bo'r achos yn cael ei ystyried ymhellach gan y Cyngor Deintyddol Cenedlaethol.
Mae'r bwrdd iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i bwysleisio bod unrhyw risg fod pobl wedi eu heintio yn fychan iawn. Mae 'na bosibilrwydd - drwy rannu offer rhwng mwy nag un claf - bod firysau yn y gwaed fel hepatitis B, hepatitis C a HIV yn gallu lledu.
Ond mae swyddogion yn mynnu bod y risg mor isel fel nad oes angen i gleifion o reidrwydd gael eu profi.
Maen nhw wedi sefydlu llinell gyngor arbennig i unrhyw un sydd â phryderon, ac mae nhw'n annog cyn-gleifion Mark Roberts ar hyd y blynyddoedd sydd â chwestiynau neu ofnau i gysylltu â nhw.