Abertawe 0-1 Stoke

  • Cyhoeddwyd
abertawe stokeFfynhonnell y llun, Getty Images

Cic o'r smotyn gan Bojan ym munudau cynta'r gêm oedd unig gôl y noson yn y Liberty nos Lun.

Fe ddaeth Glen Johnson, Charlie Adam a Joselu yn agos at ymestyn mantais yr ymwelwyr.

Bu ond y dim i Jonjo Shelvey unioni'r sgôr i Abertawe, ond fe sbonciodd y bêl o'r gôl ar ôl taro'r postyn.

Doedd yr Elyrch ddim ar eu gorau - ac mae'r canlyniad yn golygu eu bod nhw'n syrthio i'r 14eg safle yn Uwchgynghrair Lloegr.