Oedi cyn agor adeilad yng Nghaerdydd fel Canolfan Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Fe fydd oedi cyn i adeilad yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd agor ei ddrysau fel canolfan Gymraeg.
Y bwriad gwreiddiol oedd i'r cynllun fod yn barod erbyn mis Hydref.
Ond mae wedi dod i'r amlwg na fydd y ganolfan newydd yn gweld golau dydd nes ddiwedd mis Ionawr 2016.
Dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis, sy'n arwain y prosiect ar ran cyngor y ddinas, ei bod wedi "rhagweld" y byddai "oedi naturiol yn digwydd".
Y gwaith o drawsnewid yr adeilad ac adleoli staff presennol ydi'r rheswm dros hynny ac nid amgylchiadau ariannol, mynnodd.
"Wnaeth y gwaith adeiladu ddim cychwyn tan mis Medi oherwydd beth o'n i wedi sôn am yn gynt," meddai Siân Lewis wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.
"Felly yn naturiol, mae amser yn symud yn ei flaen a 'da ni ddim am allu cyflawni'r prosiect yn yr amser gwreiddiol wnaethom ni benodi."
'Erbyn 2016'
Dywedodd ei bod yn "sicr" y bydd y gwaith wedi ei orffen erbyn y flwyddyn newydd, gan ychwanegu: "'Da ni'n bwriadu agor ein drysau a rhoi'r croeso cynnes Cymreig yna i bobl Caerdydd a thu hwnt a'r rheiny sy'n ymwneud â'r Hen Lyfrgell...o ddiwedd mis Ionawr ymlaen."
Nod y ganolfan ydi hybu deunydd o'r iaith yn y brifddinas.
Fe fydd hi'n cynnwys caffi, bar, bwyty, siop yn gwerthu cynnyrch Cymreig, meithrinfa ac ystafelloedd i gynnal cynadleddau.
Aeth gohebydd Newyddion 9, Ellis Roberts â Chymru Fyw ar daith o gwmpas y ganolfan