Dynladdiad Tonypandy: Carcharu tri
- Cyhoeddwyd
Mae tri wedi eu carcharu wedi i ddyn farw yn ystod ffrwgwd y tu allan i dafarn yn Nhonypandy ym mis Ebrill.
Fe blediodd Dean Doggett, o Donypandy a Jamie Leyshon o Benygraig - ill dau'n 26 oed - yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Bydd y ddau yn treulio hanner dedfryd o wyth mlynedd dan glo cyn cael eu rhyddhau ar drwydded.
Yn ogystal, bydd Leyshon yn treulio dedfryd gyfredol o 16 mis yn y carchar wedi iddo bledio'n euog i anhrefn treisgar.
Fe blediodd Kylie Thomas, 25 oed o Benygraig yn euog i'r un cyhuddiad, a bydd yn treulio hanner dedfryd o 12 mis dan glo cyn cael ei rhyddhau ar drwydded.
'Cyflym a ffyrnig'
Bu farw Wayne Letherby, 42 oed wrth geisio helpu ei fab, Jordan yn ystod ffrwgwd y tu allan i dafarn wedi i griw dreulio'r noson yn yfed yno fis Ebrill.
Fe ddywedodd y barnwr fod lluniau CCTV yn dangos ymladd "cyflym a ffyrnig", adawodd Mr Letherby yn anymwybodol, heb byls.
Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno yn oriau mân y bore canlynol.
Straeon perthnasol
- 14 Hydref 2015
- 19 Ebrill 2015