Gwerthu tir: Amddiffyn penderfyniadau

  • Cyhoeddwyd
pres

Mae'r cwmni gynghorodd Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru yn y broses o werthu 15 safle o dir, wedi amddiffyn ei rôl yn y fargen.

Mae Lambert Smith Hampton wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad wedi i adroddiadau godi pryderon am y broses.

Yn ôl rheolwyr y cwmni, fe gafodd y cyhoedd werth am arian, a'r unig beth y bydden nhw'n ei wneud yn wahanol petaen nhw'n ymgymryd â'r gwaith eto, fyddai ceisio profi eu bod nhw wedi cael y pris gorau.

Roedd y cwmni'n rhan o gynllun Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru i werthu 15 safle o dir am £21 miliwn i gwmni o Guernsey ym Mawrth 2012.

Yn ôl adroddiad y Swyddfa Archwilio mae trethdalwyr ar eu colled hyd at £15 miliwn yn dilyn y gwerthiant.

Mae adroddiad Deloitte yn dweud nad yw'n ymddangos fod cwmni Lambert Smith Hampton wedi codi cwestiynau dros y penderfyniad i werthu'r tir gwerthfawr am £21 miliwn.