Taro a ffoi: Arestio dyn

  • Cyhoeddwyd
Julian RuckFfynhonnell y llun, Swansea Evening Post
Disgrifiad o’r llun,
Mae Julian Ruck yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol

Mae dyn 19 oed o Borth Tywyn wedi ei arestio wedi i awdur o Gydweli gael ei daro gan gar ddydd Sadwrn.

Fe gafodd Julian Ruck, 59 oed, ei daro ar Heol Newydd yn y dref tua 19:30, ac mae wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben a'i goes.

Wnaeth y gyrrwr ddim stopio wedi'r gwrthdrawiad.

Cafodd Mr Ruck - sydd wedi ysgrifennu pedwar llyfr ac yn golofnydd i bapurau lleol - ei gymryd i Ysbyty Treforys lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog, ond difrifol.

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Heol Newydd