Cais cynllunio: Arweinydd Sir Gâr yn llwyddo

  • Cyhoeddwyd
ysgubor
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ysbubor newydd ar dir teulu Mr Dole, arweinydd y cyngor sir

Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu rhoi caniatâd i gais cynllunio teulu arweinydd y sir i godi ysgubor newydd ar eu tir - yn groes i argymhellion swyddogion cynllunio.

Aeth aelodau'r pwyllgor cynllunio i gartre Emlyn Dole fore Mawrth cyn gwneud eu penderfyniad.

O fwyafrif o un bleidlais penderfynodd y cynghorwyr o blaid rhoi caniatâd cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Davies, Llafur Gorslas ac aelod o'r pwyllgor cynllunio, nad oedd yn hapus gyda'r penderfyniad oherwydd "... dwi yn siomedig iawn bod y datblygwyr wedi cario 'mlaen i ddatblygu ar ôl y cyfarfod diwethaf.

'Methu cefnogi'

"Dyma'r neges y rydyn ni yn ei rhoi i'r cyhoedd - mae'n groes i egwyddor a dw i'n methu ei gefnogi e," meddai Mr Davies, aelod o'r pwyllgor cynllunio."

Dywedodd cynghorydd lleol arall, Joy Williams o Blaid Cymru, fod y sefyllfa'n anodd.

"Mae angen pwyso a mesur y ffeithiau," meddai. "Dwi'n cytuno nad oedd hwn yn adeilad newydd ond fe fydd cerrig yr ysgubor yn cael eu defnyddio fel cragen ar gyfer yr adeilad newydd, ac mae'r adeiladwyr yn ddau frawd lleol."

Disgrifiad,

Gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield yn holi Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ar dir fferm yn ardal Pontyberem ei ddymchwel a hynny'n groes i reolau cynllunio.

Yn wreiddiol, cafodd gwraig y Cynghorydd Dole, Gwenda Owen, ganiatâd cynllunio i addasu'n rhannol hen adeiladau carreg ar fferm Capel Ifan.

Ond roedd swyddogion cynllunio yn anfodlon am fod yr adeilad cyfan wedi ei ddymchwel.

Cais newydd

Wedi ymchwiliad diweddar penderfynodd swyddogion cynllunio fod angen cyflwyno cais newydd am yr hawl i adeiladu ysgubor newydd gan fod "gweddill muriau'r adeilad gwreiddiol wedi eu dymchwel tua Mai 2015."

Mewn adroddiad roedd peiriannydd strwythurol ar ran yr ymgeisydd wedi cynghori bod angen cael gwared ar waliau oedd yn dal i sefyll oherwydd bod eu cyflwr yn gwaethygu.

Disgrifiad o’r llun,
Emlyn Dole