Gollwng cyhuddiadau yn erbyn uwchswyddogion Cyngor Caerffili
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerffili wedi dweud bod cyhuddiadau yn erbyn tri o'u huwchswyddogion wedi eu gollwng.
Roedd y prif weithredwr, Michael Anthony O'Sullivan, ei ddirprwy, Nigel Barnett, a'r pennaeth gwasanaethau cyfreithiol, Daniel Perkins, wedi eu cyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Cafodd Mr O'Sullivan ei arestio ym Mawrth 2013 a'r ddau arall yng Ngorffennaf y flwyddyn honno.
Roedd achos i fod yn Llys y Goron Bryste yn Nhachwedd eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai'r tri'n cael eu gwahardd o'u gwaith o hyd tra bod y cyngor yn ymdrin â "materion mewnol" fyddai'n ymwneud â disgyblu.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yr achos yn un "cymleth, eang a hir i mewn i honiadau difrifol yn erbyn gweithwyr y cyngor" a bod uned achosion cymleth Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi "cymryd y penderfyniad i gyhuddo tri diffynydd yn dilyn ymgynghoriad manwl gyda'r heddlu."
"Ers hynny mae'r tîm erlyn wedi gweithredu'r achos o fewn y broses gyfreithiol gywir," meddai'r llefarydd.
'Mwy na £1m'
Mae Keith Reynolds, arweinydd y cyngor, wedi dweud: "Bydd nifer o bobl yn poeni ac yn rhwystredig am hyd y broses ymchwilio a chyfreithiol a'r gost ...
"Dylid gofyn cwestiynau difrifol i'r Gwasanaeth Erlyn am yr amser mae hyn wedi ei gymryd a byddwn yn ceisio adennill yr arian sydd wedi ei golli oherwydd tâl y swyddogion sydd wedi eu hatal o'u gwaith - swm o fwy na £1m."
Dywedodd AS Caerffili Wayne David fod yr ymchwiliad yn "warthus" ac y byddai'n codi'r mater yn y Senedd.