Creu bron i 390 o swyddi yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Carwyn Jones gyda Dinesh Jain, Prif Swyddog Cyllid Firstsource

Bydd bron i 390 o swyddi'n cael eu creu yng Nghaerdydd wrth i gwmni ehangu ei wasanaeth yn y brifddinas.

Mae cwmni Firstsource Solutions yn darparu gwasanaethau rheoli prosesau busnes pwrpasol yn fyd-eang, ac fe fydd yn agor ail ganolfan gyswllt yng Nghaerdydd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi'r datblygiad ddydd Mercher, disgrifiodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, ei fod yn "newyddion rhagorol ac yn hwb ar gyfer y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, sy'n ehangu'n gyflym yn Ne Cymru."

Daw cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu 387 o swyddi, ac mae 100 ohonynt eisoes wedi'u recriwtio. Mae'r cwmni yn ehangu am ei fod wedi ennill dau gontract newydd ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid, gyda chwmni cyfryngau yn y DU, a chwmni busnes adloniant byd-eang oedd y llall.

Agorodd Firstsource Solutions ei ganolfan gyntaf yn Discovery House ym Mae Caerdydd yn 2012, lle mae bellach yn cyflogi bron i 1000 o bobl ac mae i agor ail ganolfan yn Oakleigh House yng nghanol y ddinas.

'Llwyddiant mawr'

Dywedodd y Gweinidog: "Dwi'n falch iawn bod y contractau newydd hyn wedi'u sicrhau gyda chwmni Firstsource yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr.

"Cefais y pleser o agor eu canolfan gyntaf yn swyddogol yng Nghaerdydd yn 2012 pan ragwelwyd y byddai 600 o swyddi'n cael eu creu. Maent wedi gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl, ac maent bellach yn cyflogi bron 1000 o bobl newydd, tra bo'r ehangu diweddaraf hwn yn creu dros 380 o swyddi newydd.

"Mae penderfyniad y cwmni i agor canolfan newydd yng Nghaerdydd yn anfon neges gref iawn bod Cymru yn lleoliad gwych ar gyfer cwmni sy'n dymuno datblygu eu busnes."

Marchnadoedd Ewropeaidd

O ganlyniad i'r contractau newydd, bydd Firstsource yn cyflwyno gweithgareddau newydd digidol i gwsmeriaid ac yn recriwtio mwy o staff aml-ieithog i wasanaethu marchnadoedd Ewropeaidd. Mae hyn yn ychwanegol at y cwsmeriaid hynny sydd eisoes yn cael eu gwasanaethau yn y diwydiannau darlledu, bancio, ariannol a gwasanaethau proffesiynol o Discovery House.

Dywedodd Kathryn Chivers, Is-Lywydd Firstsource Solutions: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r busnes wrth inni ehangu ein gwasanaethau i ragor o gleientiaid a hefyd yn newyddion gwych i'r economi ac i bobl Caerdydd. Mae gennym eisoes bron i 1,000 o weithwyr yng Nghaerdydd sy'n canolbwyntio ar 'ei wneud yn lle gwych i weithio.

"Mae o fantais sylweddol i feddu ar weithlu lleol dawnus sydd wedi'u hysgogi er mwyn eu defnyddio ar gyfer yr ymgyrch ehangu fawr hon."

Fe wnaeth Carwyn Jones, y prif weinidog, gyfarfod â Mr Dinesh Jain, Prif Swyddog Cyllid Firstsource, yn ystod ei ymweliad â'r India ym mis Hydref 2014.