Marwolaethau cyffuriau yn gostwng 30%

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Photomaximum/thinkstock

Mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru wedi gostwng 30% dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Roedd y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yn 2014 wedi gostwng 16% o gymharu â 2013, a 30% ers 2010. Mae'r gyfradd marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru hefyd wedi gostwng 16% o gymharu â 2014, i 39 o farwolaethau allan o bob miliwn - y gyfradd isaf ers 2006.

Wrth siarad cyn y ddadl ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: "Mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli bywydau a gollwyd i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru ac, er fy mod yn croesawu'r newyddion am ostyngiad pellach, mae unrhyw farwolaeth a briodolir i gyffuriau un yn ormod.

'Mater cymhleth'

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â'r broblem o gamddefnyddio cyffuriau, sy'n fater cymhleth. Diolch i'r gwaith pwysig rydyn ni a'n partneriaid yn ei wneud, y mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn gostwng ar gyfradd o'r fath yng Nghymru.

"Rydyn ni'n buddsoddi mwy na £50 miliwn y flwyddyn mewn rhaglenni i fynd i'r afael â'r niwed sy'n cael ei achosi drwy gamddefnyddio sylweddau, ac mae'r ffigurau hyn yn dangos bod manteision go iawn yn deillio o'r arian hwn."

Mae'r buddsoddiad £50 miliwn mewn rhaglenni camddefnyddio sylweddau'n cael ei wario ar amrywiaeth eang o fentrau, gan gynnwys:

•Dan 24/7 - Llinell gymorth ddwyieithog Cymru ar gamddefnyddio sylweddau

•Y rhaglen naloxone i'w ddefnyddio gartref, sy'n dadwneud gorddos o opiadau

•Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) i leihau niwed

•Gwybodaeth a chymorth i rieni, gofalwyr ac ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am beryglon sylweddau, yn ogystal â darparu cefnogaeth ar eu cyfer lle bo'r angen.