Plaid Cymru yn galw am atal gwario ar gynllun yr M4
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai gwariant ar waith paratoi ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd gael ei atal tan ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2016, yn ôl Plaid Cymru.
Yn hytrach na gwario £1bn ar y cynllun llawn, mae'r blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r ffyrdd sy'n bodoli o amgylch Casnewydd yn barod, ac maen nhw'n dadlau y byddai hyn yn arbed £600m.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Rhun ap Iorwerth, fod angen datrys problemau'r M4 ger Casnewydd ond gwrthododd "cynlluniau drud" y llywodraeth fyddai'n "cymryd blynyddoedd i'w gwireddu".
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb.
Wythnos diwethaf fe gafodd Aelod Cynulliad Llafur oedd wedi beirniadu gwario £20m eleni ar waith paratoi y cynllun ei diswyddo fel cadeirydd un o bwyllgorau'r Cynulliad gan y prif weinidog.
Dywedodd Jenny Rathbone ei bod wedi ei "dychryn" gan yr arian oedd yn cael ei wario ar ffordd yr oedd hi'n ei obeithio na fyddai byth yn cael ei adeiladu.
Cyn dadl Plaid Cymru yn y Senedd ddydd Mercher ar y cynllun, galwodd Mr ap Iorwerth ar weinidogion i beidio a "chwalu'r gyllideb ar y cynllun amhoblogaidd hwn" ag i edrych ar gynllun rhatach a gwell Plaid Cymru.
"Mae Plaid Cymru am weld y problemau hyn yn cael eu datrys yn effeithiol," meddai.