Darganfod corff dyn wedi tân yng Nghilcain
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân wedi dod o hyd i gorff dyn yn dilyn tân mewn sied yn Sir y Fflint.
Cafodd Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru ei alw i Gilcain ger yr Wyddgrug ychydig ar ôl 16:00 ddydd Mawrth.
Mae ymchwiliad ar y cyd yn cael ei gynnal gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ag Achub y Gogledd. Nid yw'r awdurdodau'n trin y farwolaeth fel un amheus.