Llai o dai o achos 'rheolau newydd'
- Cyhoeddwyd

Bydd llai o dai yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol o achos cost gynyddol biwrocratiaeth a rheolau, yn ôl pennaeth un o gwmniau adeiladu tai mwyaf Cymru.
Dywedodd cadeirydd Redrow, Steve Morgan, fod rheolau "gwallgof" sydd yn golygu gosod chwistrellwyr dŵr ymhob tŷ newydd fydd yn cael ei adeiladu o fis Ionawr 2016 ymlaen, a'r galw am dai cymdeithasol, yn golygu nad yw'n rhesymol adeiladu mewn rhannau mawr o Gymru.
Llynedd fe gafodd 4,740 o dai newydd eu hadeiladu - cynnydd o 33% o'r flwyddyn flaenorol, a hynny o achos economi gryfach a chynllun Cymorth i Brynu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y broses gynllunio wedi ei symleiddio ac awdurdodau lleol sydd yn gyfrifol am gynnig tai fforddiadwy.
Yn ôl Steve Morgan mae awdurdodau lleol yn mynnu fod 30% o ddatblygiadau yn cynnwys tai fforddiadwy.
"Mae rhannau mawr o Gymru - gogledd Cymru a de Cymru - lle nad oes modd i ni wneud elw bellach", meddai wrth BBC Cymru.
'Hwb'
Dywedodd fod hwb wedi dod i adeiladwyr tai o achos cynllun Cymorth i Brynnu'r llywodraeth, ond fe fydd yr hwb yn lleihau dros amser.
Mae gweinidogion y llywodraeth wedi dweud y bydd y cynllun yn cael ei ymestyn, ond nid oes manylion am ba mor hir fydd hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae mesurau yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn golygu y bydd agwedd gyson ar draws awdurdodau cynllunio lleol.
"Nid ydym yn mynnu 30% o dai fforddiadwy ar bob datblygiad tai. Mae penderfyniadau am y lefel o dai fforddiadwy sydd ei angen ar ddatblygiadau tai unigol yn fater i awdurdodau lleol unigol, yn seiliedig ar eu polisiau lleol a thystiolaeth.
"Er mwyn sicrhau fod datblygiadau tai yn dod yn eu blaen, mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i drafod yr angen am dai fforddiadwy ar safleoedd er mwyn ystyried hyfywdra."