Wycombe 0 - 2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Yn yr Ail Adran, daeth buddugoliaeth i Gasnewydd oddi cartref yn erbyn Wycombe nos Fawrth o ddwy gôl i ddim.
Ar ôl hanner cyntaf di-sgor, aeth Casnewydd ar y blaen wedi 62 o funudau ar ôl i Bean o Wycombe daro'r bêl i'w rwyd ei hun.
Manteisiodd Casnewydd ar eu cyfle i selio'r fuddugoliaeth eiliadau cyn diwedd y gêm gydag 89 munud wedi mynd - Boden yn sgorio i'r ymwelwyr ac yn sicrhau tri phwynt haeddianol.