Dedfrydu dau frawd am lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Sameena ImamFfynhonnell y llun, West Midlands Police
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Sameena Imam yn dod o Gaerdydd

Mae disgwyl i ddau frawd sydd wedi eu cael yn euog o lofruddio menyw o Gaerdydd gael eu dedfrydu ddydd Mercher.

Yn Llys y Goron Birmingham ddydd Mawrth, fe gafodd y rheithgor Roger Cooper, 41 oed, a David Cooper, 39 oed, yn euog o lofruddio Sameena Imam.

Cafwyd hyd i gorff Ms Imam, 34 oed, wedi ei gladdu mewn gardd-ar-osod yng Nghaerlŷr ym mis Ionawr wedi i glorofform ei lladd.

Roedd Ms Imam wedi bod mewn perthynas â Roger Cooper ers dwy flynedd, ac wedi ei herio i adael ei bartner hirdymor.

Fe glywodd yr achos fod Roger Cooper wedi treulio tua mis yn cynllunio i ladd Ms Imam - un o dair o gariadon oedd ganddo - er mwyn ei rhwystro rhag datgelu'r berthynas.

Fe brynodd y brodyr fetelau gwenwynig, dod o hyd i fedd a chyfathrebu mewn negeseuon testun, gan ddefnyddio cod oedd wedi ei selio ar Star Wars cyn lladd Ms Imam.