Galw am wella diogelwch i feicwyr

  • Cyhoeddwyd
BeicioFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae angen sicrhau bod seiclo yn y brifddinas yn fwy diogel, medd arolwg newydd.

Dangosodd adroddiad "Bike Life" yng Nghaerdydd fod wyth o bob 10 person o blaid gwella diogelwch o gwmpas y ddinas.

Cafodd yr astudiaeth ei seilio ar adroddiad seiclo Copenhagen - adroddiad arweiniodd at sicrhau fod prifddinas Denmarc yn un o'r dinasoedd mwyaf cyfeillgar drwy'r byd i feicwyr.

Elusen Sustrans a gomisiynodd yr arolwg, a'i nod yw "adrodd ar y cynnydd sydd wedi ei wneud wrth geisio sicrhau fod beicio'n fwy deniadol ac yn gyfrwng teithio."

'Agweddau positif'

Dywedodd swyddog Cyfathrebu Sustrans Cymru, Natasha Withey wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fod yr ymateb wedi bod yn hynod o bositif.

"Roedd 67% yn meddwl y byddai Caerdydd yn ddinas well i fyw ynddi petai mwy o bobl yn beicio, felly roedd agweddau positif iawn ynghylch bywyd o ddydd i ddydd, ansawdd bywyd a sut mae beicio'n gallu helpu o ran ffitrwydd a lefelau stress."

Adroddiad 'Bike Life' Caerdydd:

  • 11.5 miliwn o deithiau beic yng Nghaerdydd mewn blwyddyn
  • Cynnydd o 28% yn nifer y teithiau beic rhwng 2013 a 2014
  • 28% o bobl yn beicio unwaith neu fwy y mis
  • Wyth o bob 10 person o blaid gwella diogelwch, mwy nag unrhyw gyfrwng teithio arall o gwmpas y ddinas
  • 78% o bobl yng Nghaerdydd eisiau gweld cynnydd yn y gwariant ar seiclo