Achos heroin: Dyn o Gaerdydd yn gwadu cytuno i gyflenwi
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd, sy'n cael ei gyhuddo o fod yn rhan o'r cynllwyn gwerthu heroin mwyaf yng Nghymru, wedi gwadu cytuno gyda'i frawd i gyflenwi'r cyffur.
Yn Llys y Goron Caerdydd mae Umar Arif yn un o chwech diffynnydd sy'n gwadu cynllwynio i gyflenwi heroin.
Dywedodd Mr Arif, 29 oed, wrth y llys ei fod yn ymwybodol bod gan ei frawd hŷn, Mohammed Sajjad "record flaenorol yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau" ond ei fod yn credu fod y bywyd hwnnw y tu cefn iddo.
Mae'r rheithgor wedi cael gwybod fod Sajjad eisoes wedi pledio'n euog i gynllwynio i gyflenwi heroin.
Fel rhan o Operation Frank daeth yr heddlu o hyd i 40 cilogram o heroin gwerth bron i £5m rhwng 2013 a 2014 - y cyflenwad mwyaf i'r heddlu yng Nghymru ei ddarganfod.
Mae Shazia Ahmad a Wasim Ali o Gasnewydd, Umar Arif, Umar Butt a Khalid Yassen o Gaerdydd a Zawed Malik o ardal Manceinion yn gwadu cynllwynio i gyflenwi heroin ac mae'r achos yn parhau.